Text Box: Y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS
 Gweinidog Gwladol y DU dros Ewrop

 

10 Mawrth 2016

Annwyl David

Agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd

Diolch am eich llythyr dyddiedig 26 Ionawr.

Fel rhan o'n gwaith ar agenda ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd, cyfarfum â nifer o swyddogion a gwleidyddion yr UE ym Mrwsel, a chawsom drafodaethau gyda Phwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi trafod y materion hyn gyda Phrif Weinidog Cymru. Roedd ein gwaith wedi'i seilio ar ein hymchwiliad blaenorol i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

O ddydd i ddydd, mae'r penderfyniadau a wneir ar lefel yr UE yn cael effaith uniongyrchol ar gymwyseddau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r gwaith a wneir gan ein pwyllgorau yn adlewyrchu'r sefyllfa hon. Mae gan faterion sy'n ymwneud â'r UE broffil uchel o ran y Pwyllgor hwn a'n pwyllgorau arbenigol polisi/ deddfwriaeth. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â deddfwrfeydd eraill y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig eraill, a hynny drwy fforwm yr EC-UK. Cyfarfod anffurfiol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn yw hwn, sy'n cael ei fynychu gan gadeiryddion y pwyllgorau Ewropeaidd a'r pwyllgorau cyfatebol (gan gynnwys Syr William Cash a'r Arglwydd Boswell o Senedd y DU.)

Roeddem yn siomedig, felly, gyda'r diffyg ymgynghori ac ymgysylltu a gafwyd gyda'r deddfwrfeydd datganoledig yn ystod y trafodaethau ar yr agenda ddiwygio. Byddai trafodaeth strwythuredig ar y fasged sofraniaeth, er enghraifft, wedi dod â buddion clir. Y fasged sofraniaeth yw'r term a roddir i'r alwad am bwerau cryfach i seneddau cenedlaethol mewn perthynas â'r broses o wneud penderfyniadau yn yr UE. Mae gan ddeddfwrfeydd datganoledig rôl bwysig o ran craffu ar waith yr UE. Mae'n anffodus nad yw llais y deddfwrfeydd datganoledig wedi cael ei ystyried yn y broses o ddangos yr hyn a elwir yn 'gerdyn coch'. Mae'r canlyniad y cytunwyd arno yn setliad newydd y DU yn codi'r posibilrwydd y bydd Senedd y DU, gan weithredu ar gymwyseddau Lloegr yn unig (er enghraifft, ym meysydd amaethyddiaeth neu'r amgylchedd), yn galw am feto ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd, a hynny heb orfod cymryd i ystyriaeth, neu adlewyrchu, diddordebau neu bryderon deddfwrfeydd datganoledig y DU ynghylch materion o'r fath.

Mae'n bosibl y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn drwy drafodaethau mewnol yn y DU. Rydym yn gobeithio y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth os bydd canlyniad y refferendwm yn golygu y bydd setliad newydd y DU yn dod i rym. Yn y cyfamser, byddai'n ddefnyddiol inni glywed eich sylwadau chi ar y pwynt penodol hwn.

Os bydd y DU yn gadael yr UE o ganlyniad i'r refferendwm, bydd gan y sefyllfa hon oblygiadau mawr i'r holl weinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n bwysig, felly, bod mecanweithiau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y deddfwrfeydd datganoledig, yn ogystal â'r Llywodraethau datganoledig, yn chwarae rhan ganolog yn y trafodaethau a gynhelir i ddiffinio telerau'r DU ar gyfer gadael yr UE. Pe gallech roi sicrwydd inni ar y pwynt hwn, byddem yn croesawu hynny'n fawr.

Rydym wedi ymrwymo i'r broses o chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu parthed yr holl faterion sy'n ymwneud â'r UE ac i ddylanwadu arnynt. Yn yr ysbryd hwnnw, beth bynnag sy'n digwydd ar ôl refferendwm yr haf, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor sy'n ein holynu yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ynghylch ein perthynas eginol gyda'r UE.

Yn gywir,

DPO's Signature

David Melding AC

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.